Luxor Cynnwys Hanes | Hinsawdd | Hynafiaethau ardal Luxor | Trafnidiaeth | Dolenni allanol | Llywiowww.luxor.gov.eg Gwefan LuxorTheban Mapping ProjectSafle Treftadaeth y Byd LuxorMap hinsawddTeml Luxor: oriel
Dinasoedd yr AifftYr Hen Aifft
AifftArabegThebesKarnakTeml LuxorAfon NîlNecropolis ThebesDyffryn y BrenhinoeddDyffryn y BreninesautwristiaethThebesAmon-RaThebes (Yr Aifft)Montuhotep IIKushSwdanCanaanFfeniciaSyria18fed Frenhinllin20fed FrenhinllinAlexandriaPtolemiKarnakAlexander FawrYmerodraeth RufeinigHatshepsutDeir el-Bahri
Luxor
Jump to navigation
Jump to search
Math | Dinas |
---|---|
Poblogaeth | 202,232 |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Kazanlak, Baltimore, Parintins, Shenzhen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Luxor Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 416,000,000 m² |
Uwch y môr | 89 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 25.6969°N 32.6422°E |
Cod post | 85511 |
Ffeiliau perthnasol ar Comin | |
[golygwch ar Wicidata] |
Prif ddinas De'r Aifft a phrifddinas yr ardal o'r un enw yw Luxor (Arabeg: الأقصر al-Uqṣur), gyda phoblogaeth o 451.318 (cyfrifiad 2006), mewn ardal o 416km2. Mae Luxor yn sefyll ar safle dinas hynafol Thebes. Mae cymaint o olion archaeolegol yno fel bod rhai wedi cyferio at Luxor fel "amgueddfa awyr agored fwyaf y byd"; mae olion teml Karnak a Teml Luxor o fewn y ddinas fodern. Dros yr afon, sef yr Afon Nîl, mae rhagor o demlau a beddau'r Lan Orllewinol sef Necropolis Thebes, yn cynnwys Dyffryn y Brenhinoedd a Dyffryn y Breninesau. Prif ddiwydiant Luxor erbyn heddiw yw twristiaeth.
Cynnwys
1 Hanes
2 Hinsawdd
3 Hynafiaethau ardal Luxor
4 Trafnidiaeth
5 Dolenni allanol
Hanes |
- Gweler hefyd: Thebes.
O dan y Deyrnas Newydd daeth Luxor, neu Thebes, yn brifddinas yr Aifft, roedd hefyd yn ddinas grefydd y duw Amon-Ra. Ar y pryd fe'i gelwid yn "Waset". Dan oruchafiaeth y Groegwyr daeth yn Thebai neu Thebes. Dinas y gan porth oedd Thebes (Yr Aifft).
O dan y 11ed Brenhinllin, tyfodd i fod yn ddinas grefydd, gyfoeth, bwer a masnach. Dan Montuhotep II unwyd yr Aifft. Concrodd Kush, yng ngogledd Swdan, a thiroedd Canaan, Ffenicia, a Syria. Parhaodd ei phwysigrwydd o gyfnod y 18fed Frenhinllin hyd at yr 20fed Frenhinllin.
Erbyn amser y Groegwyr disodlwyd Thebes gan Alexandria yn cyfnod Ptolemi. Ond roedd Thebes yn ddinas y duw Amon-Ra, ac arhosodd fel prif ddinas crefydd yr Aifft. Y tri duw pwysicaf oedd Amon, ei wraig, y duwies Mut, a'u mab Khonsu, duw y lleuad. Teml i frenin y duwiau Amon-Ra yw Karnak i'r gogledd o Thebes. Daeth, Alexander Fawr i addoli yn Nheml Amun, ac yn y canrifodd cyntaf OC daeth mynachod Cristnogol dan yr Ymerodraeth Rufeinig i Luxor i ymsefydlu ymhlith y temlau paganaidd fel un Hatshepsut, erbyn heddiw Deir el-Bahri ("mynachlog y gogledd").
Hinsawdd |
Luxor | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Awst | Medi | Hyd | Tach | Rhag |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tymheredd - Uchafbwynt cyfartalog (°C) (°C) | 23.0 | 23.0 | 25.4 | 27.4 | 35.0 | 39.2 | 41.4 | 40.4 | 38.8 | 35.3 | 28.9 | 24.4 |
Glawiad misol cyfartalog (mm) | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 | 0 | 0 | 1 |
Mae llai na 3mm o law bob blwyddyn ac y tymheredd ar adegau yn mynd dros 50c.
Hynafiaethau ardal Luxor |
- Teml Luxor
- Teml Karnak
- Amgueddfa Luxor
- Amgueddfa Mumiffeiddio
- Dyffryn y Brenhinoedd
- Dyffryn y Breninesau
Medinet Habu (teml Ramesses III)
Ramesseum (teml goffa Ramesses II)
Deir el-Medina (pentre'r gweithwyr)
Deir el-Bahri (Teml y Meirw Hatshepsut)
Malkata (palas Amenophis III)
Colossi Memnon (teml goffa Amenophis III)
Trafnidiaeth |
Dolenni allanol |
- www.luxor.gov.eg Gwefan Luxor
- Theban Mapping Project
- Safle Treftadaeth y Byd Luxor
- Map hinsawdd
- Teml Luxor: oriel
Categorïau:
- Dinasoedd yr Aifft
- Yr Hen Aifft
(RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgPageParseReport":"limitreport":"cputime":"0.492","walltime":"0.607","ppvisitednodes":"value":2434,"limit":1000000,"ppgeneratednodes":"value":0,"limit":1500000,"postexpandincludesize":"value":17681,"limit":2097152,"templateargumentsize":"value":4133,"limit":2097152,"expansiondepth":"value":9,"limit":40,"expensivefunctioncount":"value":0,"limit":500,"unstrip-depth":"value":0,"limit":20,"unstrip-size":"value":600,"limit":5000000,"entityaccesscount":"value":2,"limit":400,"timingprofile":["100.00% 524.322 1 Nodyn:Gwybodlen_lle","100.00% 524.322 1 -total"," 89.24% 467.916 1 Nodyn:Infobox"," 35.86% 188.033 68 Nodyn:If_first_display_both"," 12.07% 63.283 1 Nodyn:Dylunio_map"," 2.13% 11.165 1 Nodyn:Icon"," 1.65% 8.661 2 Nodyn:Main_other"," 1.35% 7.085 1 Nodyn:Mapa_marraztu/ikonoa"," 1.23% 6.436 1 Nodyn:EditOnWikidata"," 0.59% 3.113 1 Nodyn:Template_other"],"scribunto":"limitreport-timeusage":"value":"0.288","limit":"10.000","limitreport-memusage":"value":3216317,"limit":52428800,"cachereport":"origin":"mw1302","timestamp":"20190701001541","ttl":2592000,"transientcontent":false););"@context":"https://schema.org","@type":"Article","name":"Luxor","url":"https://cy.wikipedia.org/wiki/Luxor","sameAs":"http://www.wikidata.org/entity/Q130514","mainEntity":"http://www.wikidata.org/entity/Q130514","author":"@type":"Organization","name":"Contributors to Wikimedia projects","publisher":"@type":"Organization","name":"Wikimedia Foundation, Inc.","logo":"@type":"ImageObject","url":"https://www.wikimedia.org/static/images/wmf-hor-googpub.png","datePublished":"2010-03-28T02:56:55Z","dateModified":"2019-06-18T09:12:24Z","image":"https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/5/50/Egypt.LuxorTemple.River.01.jpg"(RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgBackendResponseTime":114,"wgHostname":"mw1256"););